Ioan Gruffudd yn Sôn am Ei Ffyddlondeb i’w Hunaniaeth Gymreig
Cyfieithiad Cymraeg (Welsh Translation):
Cyfweliad Unigryw:
Er bod cynulleidfaoedd rhyngwladol yn adnabod yr actor Ioan Gruffudd am ei gymeriadau megis Mr Fantastic yn y ffilmiau Marvel, Officer Lowe yn Titanic ac Adam Lockwood yn Bad Boys: Ride or Die, mae Cymru yn ystyried ef fel un o’r actorion mwyaf llwyddiannus i ddod allan o’r wlad.
Mae Ioan Gruffudd yn serennu yn Fantastic Four (2005) fel yr archarwr Mr Fantastic
Delwedd o 20th Century Studios
Mae’r siaradwr rhugl o’r Gymraeg wedi darganfod llwyddiant ledled y byd ers blynyddoedd ac yn byw yn Los Angeles, ond yn parhau i gario ei Gymreictod gydag ef.
Cyfle i Gruffudd oedd Comic Con Wales 2023, wedi’i sefydlu gan Monopoly Events, i ddychwelyd i’w famwlad ac i nifer o’i ffans i rannu eu diolchgarwch am ei rhan o roi Cymru ar y map.
Wrth siarad mewn cyfweliad unigryw gyda Regan Elis at y confensiwn, dywedodd yr actor bod cymryd rhan yn y Comic Con wedi bod yn “brofiad mor hyfryd.”
Gwnaeth Gruffudd, sydd yn byw yn Los Angeles ers iddo fod yn un deg wyth blwydd oed, disgrifio’r digwyddiad fel “cyfle gwych i ddychwelyd [i Gymru]… mae pawb wedi bod mor hyfryd!”
Un o brosiectau cyntaf yr actor oedd Titanic, sef un o’r ffilmiau sydd wedi creu’r fwyaf o arian at y box office erioed. Yn portreadu Officer Lowe, gwnaeth Gruffudd achub teithwyr y llong, gan gynnwys Rose, wedi’i chwarae gan Kate Winslet.
Ioan Gruffudd fel Officer Harold Lowe yn Titanic (1997)
Delwedd o Landmark Media/Alamy
Creda Gruffudd fod ei hunaniaeth amlwg Cymraeg wedi bod yn gymorth iddo yn Hollywood, er gwaethaf gwrthwynebiadau ar ddechrau ei yrfa. Roedd enw Cymraeg yr actor yn arwydd glir ei fod e’n wahanol i bawb arall.
“Ar y dechrau, mae’n debyg roedd awgrymiad gan rhai i fi newid fy enw, neu newid y sillafiad, ond roeddwn i’n Gymro balch ifanc ar y pryd.”
Wrth atgofio ei benderfyniad i gadw sillafiad Cymraeg ei enw, dywedodd yr actor, “Rwy’n falch fe wnes i aros gyda fe achos erbyn hyn, mae gan bawb mynediad i gymaint o gyfresi a ffilmiau. [Mae ffilm wedi] tyfu i ddod yn gyfrwng rhyngwladol iawn. Ble bynnag rydych chi yn y byd, mae gennych chi fynediad i raglenni a chyfresi… ac rydyn ni gyd wedi tyfu i ddysgu holl enwau’r actorion yma, ac mae fy enw i yn un o rain mae’n rhaid ei ddysgu!”
Yn fuan ar ôl Titanic, roedd rhuglder Cymraeg Gruffudd yn gymorth iddo wrth lanio’r brif rôl yn y ffilm iaith-Gymraeg Solomon & Gaenor, stori am Iddew a menyw Gristnogol sy’n cwympo mewn cariad yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif gynnar.
Ioan Gruffudd a Nia Roberts yn Solomon & Gaenor
Delwedd o Sony Pictures Classics
Cafodd y ffilm ei enwebu am Ffilm Iaith Dramor Gorau at y Seremoni Oscars 72ain. Daeth hyn a Gruffudd i sylw’r cyhoedd yn gyflym.
Fe wnaeth y platfform rhyngwladol hwn agor y drysau ar gyfer llawer o gyfleoedd eraill i Gruffudd. Gwelwyd y rhaglen teledu Hornblower yr actor yn serennu fel y prif gymeriad, a gwnaeth y ffilmiau Fantastic Four, sydd wedi’u selio ar gomics Marvel, cynnwys Gruffudd fel arweinydd y tîm, Mr Fantastic.
Mae Chris Evans, Ioan Gruffudd a Jessica Alba yn aelodau o’r tîm Fantastic Four
Delwedd o 20th Century Fox
Yn dilyn ei ffilmiau Fantastic Four yn 2005 a 2007, mae Gruffudd wedi chwarae sawl ddihiryn ar y sgrin fawr. Er bod Gruffudd wedi mabwysiadu acen Americanaidd ar gyfer rolau yn ffilmiau fel San Andreas a Bad Boys: Ride or Die, mae ganddo acen Cymraeg gref tu allan i’w gwaith.
Lockwood (Ioan Gruffudd) ydy’r dihiryn dirgel yn Bad Boys: Ride or Die
Delwedd o Sony Pictures Releasing
Mae Gruffudd yn dweud bod ei wreiddiau Cymraeg yn helpu iddo gadw persbectif ar ei lwyddiant: “Fel Cymry, rydyn ni’n eithaf gostyngedig – rydyn ni’n uchelgeisiol, rydyn ni’n greadigol, rydyn ni’n artistig.” Creda’r actor bod “cymysgiad o uchelgeisrwydd a phenderfyniad,” yn ogystal â chael ei fagu yng Nghymru, wedi ei helpu i “gadw [ei] draed ar y ddaear” trwy gydol ei yrfa.
Parhaodd, wrth esbonio bod ei magwraeth Cymraeg wedi dylanwadu nifer o’r cymeriadau enwog rydyn ni wedi gweld ar ein sgrins.
“Er fy mod i wedi cael yr yrfa wych hon dros y byd i gyd, ac wedi gweithio gyda chymaint o bobl fendigedig ar brosiectau gwych, rwy’n credu bod y ffaith nad wyf wedi colli fy ngwreiddiau wedi trwytho’r cymeriadau dwi wedi chwarae a’m gyrfa.”
Mae cynrychioli Cymru ar ffilm yn “anrhydedd” i Gruffudd, sy’n teimlo “pleser i fod nôl i rannu popeth [mae e] wedi gwneud yn y gorffennol gyda’r ffans.”
Gwnaeth y Comic Con, a chynhelir yng Nghasnewydd, weld cannoedd o ffans yn siarad a gwenu gyda’r actor wrth dderbyn llofnodion ar ffigurynnau a phosteri o’i chymeriadau fwyaf eiconig. Roedd hi’n foment hynod o arbennig i ffans i weld actor mor llwyddiannus yn dychwelyd i’w famwlad. Roedd cyffro’r ffans – nifer sydd wedi bod yn dilyn gyrfa’r actor ers y dechrau – yn amlwg, yn ogystal â’u diolchgarwch at Gruffudd am gymryd yr amser i deithio i’r confensiwn.
Yr actor yn llofnodi llun ar gyfer ffan gyffrous
Delwedd o Comic Con Wales/Monopoly Events
Yn ddiolchgar i’r ffans a threfnwyr y confensiwn, gwenodd yr actor “diolch yn fawr” yn llon. Er bod gyrfa Gruffudd wedi’i gymryd ar daith anghredadwy ryngwladol, mae’n amlwg mai Cymru wastad yn gartref iddo ac yn agos i’w galon.